CARN

Social Media

Galwad am artistiaid BAUHAUS 100 Call for artists

05 Meh 2019 - 24 Meh 2019

Start Time: 12:00 - End Time: 17:00 | Caernarfon | Am Ddim | Free

Galwad agored i artistiaid i gymryd rhan yn ein harddangosfa ddiweddaraf, BAUHAUS 100

Audience

Pawb | All

Galwad agored i artist gymryd rhan yn ein harddangosfa ddiweddaraf, BAUHAUS 100

Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 5pm dydd Llun 24 Mehefin 2019

Gwnewch gais am ein cyfle diweddaraf, sy'n dathlu 100 mlynedd o Ysgol Gelf Bauhaus, ei fawredd wrth addysgu rhai o artistiaid mwyaf cydnabyddus y byd a sut mae'n parhau i ddylanwadu ar gelf a dylunio hyd heddiw.

Dyddiadau'r arddangosfa bydd o 12 Gorffennaf 2019 - 1 Medi 2019.

Bydd digwyddiad agoriadol swyddogol ar ddydd Gwener y 12fed o Orffennaf 2019, fel rhan o ddigwyddiadau Gwyl Arall (www.gwylarall.com). Dyma fydd ein harddangosfa cyntaf yn ein gofod newydd. Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi unwaith y bydd pob peth yn ei le.

Mae'r arddangosfa hon yn gwbl agored, rhaid i geisiadau ymwneud â'r Ysgol Gelf enwog mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, boed hynny drwy defnydd lliwiau, dyluniadau neu ei ddysgeidiaeth unigryw. Gall cysylltiadau fod mor denau a haniaethol ag y dymunwch ac wrth gwrs y mwyaf creadigol, gorau oll!

Byddwn yn derbyn ceisiadau ym mhob cyfrwng; paentio, cerflunio, dylunio 3D, print, ffilm, ffotograffiaeth, ysgrifenedig ac ati. Ond gan fod gofod yn gyfyngedig, rydym yn eich cynghori i gysylltu â ni i wneud ymholiadau a thrafod eich cais.

Mae yna ffurflen gais i'w gwblhau hefyd, weler isod.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bost: carn.post@gmail.com

DYDDIAD CAU DERBYN CEISIADAU: 5pm Dydd Llun 24.06.19


Ffurflen Gais Gwaith Application Form Bauhaus 100 Blank


Ffurflen Gais Gwaith Application Form Bauhaus 100 Blank