CARN

Social Media

Amdanom

Mae CARN (Rhwydwaith Artistic Ardal Caernarfon | Caernarfon Artist Regional Network) yn sefydliad aelodaeth a grŵp cyfansoddiadol sy'n gweithio trwy artistiaid i ddarparu buddion tuag at les a llewyrchiant y gymuned. Mae'n cydnabod drwy helpu artistiaid i ddatblygu arferion celf llewyrchus ac hyderus, y gall wneud y mwyaf o'r cyfraniad a wnânt i'r gymdeithas.

I weithredu hyn, datblygodd CARN Balaclafa – hwb a gofod i gynnal digwyddiadau, arddangosfeydd, siop, cyfarfodydd a thrafodaethau i artisitiaid, gweinthyddwyr a phobl creadigol i allugogi gweithgaredd ar draws yr ardal.

Mae'r grŵp hefyd yn rhedeg gofod preswyliad cyfnod byr yng Nghaernarfon, gofod dros dro mewn carafan wedi'i drawsnewid. Mae'r grŵp hefyd yn cefnogi grwpiau a chymdeithasau amrywiol lleol gan weithredu cydweithio partnariaethol.

Mae CARN yn agored i artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac aelodaeu o'r gymuned sydd â diddordeb yn y celfyddydau a chregarwch. Mae fforwm cyfathrebu sefydledig parhaus ar-lein drwy Facebook, Instagram CARN a thrwy gwefan CARN.

Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gwyneb yn wyneb i gyfnewid barn a syniadau gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau yng Nghaernarfon a thu hwnt.