CARN

Social Media

Cyhoeddiad COVID-19 Announcement

Published: 18.03.2020

18/03/2020 * Cyhoeddiad * COVID-19

I'n hartistiaid, defnyddwyr, cwsmeriaid, ymwelwyr annwyl a'n ffrindiau

Yn sgil sefyllfa ansicr yn ymwneud â COVID-19, rydym wedi dod i'r penderfyniad anodd iawn i gau Oriel CARN, Caernarfon o heddiw, Dydd Mercher 18fed o Fawrth, ymlaen am y dyfodol rhagwelwadwy, hyd nes y cawn rybudd pellach.

Ein prif bryder yw iechyd a lles ein staff a'u teuluoedd yn ogystal â'n hartistiaid/cwsmeriaid/ymwelwyr. Er ei bod yn bosibl bod ein penderfyniad fymryn yn gynamserol yn ôl y wybodaeth genedlaethol, mae gennym rai aelodau teulu agos iawn sy'n fregus, ac felly ni allwn gymyd unrhyw risg i’w iechyd. Gobeithiwn y byddwch yn deall ac yn parchu ein penderfyniad.

Mi fyddwn yn parhau i wneud pethau ar-lein ac yn gobeithio adeiladu a chael presenoldeb cryf ar-lein yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ac rydym eisiau parhau i gefnogi ein artistiaid a chreardigion trwy ddefnyddio platfform ar-lein CARN.

Felly byddwn yn parhau i gynnal digwyddiadau, ond ar fformat digidol/ar-lein. Digwyddiadau fel:

- Noson Ffilm Gwyl y Ferch, Nos Wener 20/03 am 7yh

- Clwb Darlunio Nos Lun 23/03 am 6:30pm

- a Cyfarfod Cyffredinol CARN Nos Iau 26/03 am 6:30yh

Bydd rhain i gyd ar gael i bawb ond ar fformat wahanol, lle gallwch fwynhau o’ch cartref clyd.

Ac os hoffech gefnogi artistiaid a gwneuthurwyr lleol gan brynu rhywbeth o’r arddangosfa neu o’r siop, bydd hyn dal yn bosib. A byddwn yn postio am ddim o dan yr amgylchiadau hyn wrth gwrs. Byddwn yn gwneud newidiadau ac yn diweddaru’n gwefan, www.carn.cymrui gyfaddasu a chefnogi yr angen hwn. Byddwn hefyd yn cyhoeddi diweddariad ar y sefyllfa ac unrhyw ddigwyddiadau ar ein gwefan ac ar ein cyfryngau cymdeithasol, felly cadwch olwg allan.

Bydd hwn yn gyfnod anodd i bob busnes bach, rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth chi i’n cadw ni i fynd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gofynnwn i chi barhau i’n cefnogi ni a busnesau bach eraill ar-lein lle bo hynny'n bosibl.

Diolch i chi am eich cefnogaeth parhaus

Cadwch yn saff

Menna a thîm CARN

Cydlynydd CARN ac Oriel CARN

-------------------------------------------------------

18/03/2020 * Announcement * COVID-19

To our dear artists, users, customers, visitors and friends

In the light of the uncertain circumstances related to COVID-19, we’ve come to the difficult decision to close Oriel CARN, Caernarfon from today, Wednesday the 18thof March, onwards for the foreseeable future, until we get further instructions.

Our main concern is the health and wellbeing of our staff and their families as well as the health and wellbeing of our artists/customers/visitors. Although our decision may seem a little premature in accordance to the government’s advice, we have vulnerable family members and so we cannot afford to take any risks. We hope you understand and respect our decision.

Despite these uncertain times, we will continue to have an online presence and hope to build on that presence. We wish to continue supporting our artists and creatives by using CARN’s online platform

And so, we will continue with some of our events, but on a digital platform. Events such as:

- Gwyl y Ferch’s Film Night Friday 20/03 at 7pm

- Drawing Club Monday Night 23/03 from 6:30pm

- and CARN’s General Meeting on Thursday 26/03 from 6:30pm.

These will still be available for all, just on a different format and from the comfort of your own home.

And if you would like to support local artists and makers by buying items from the exhibition or the shop, this will still be possible. And of course, posting for free under the circumstances. We will be making changes and updating our website, www.carn.cymru, to accommodate and support this need. We will also be posting updates on the situation and events on our website and on our social media platforms, so keep an eye out.

This will be a difficult period for all small businesses, and we’re counting on your support in keeping us going during these difficult times. We ask that you please support us and other local businesses where and when you can.

Thanks for your continued support

Stay Safe

Menna and the CARN team

CARN and Oriel CARN Coordinator

Pagination