Arddangosfa Trelar | Trailer Exhibition Gareth Grffith
22 Jul 2019 - 07 Sep 2019
Audience
Pawb | All
Gareth Griffith: Trelar / Trailer
22 Gorffennaf - 7 Medi
Oriel 1
Ymunwch â ni ar gyfer agoriad arddangosfa Gareth Griffith gyda taith o gwmpas yr arddangosfa gan yr artist a'r curadur Steffan Jones- Hughes, 6-8yh, 27ain Gorffennaf.
Please join us for the opening of Gareth Griffith's exhibition with a walk and talk by the artist and curator Steffan Jones-Hughes, 6-8pm, 27th July.
Dyma arddangosfa o waith newydd gan yr artist Gareth Griffith, sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae’r Adeiladwaith a’r paentiadau yn ystyried y cysylltiadau rhwng lle ac amser ac yn cwestiynu materion cymdeithasol. Mae’r llefydd yn cynnwys Lerpwl, lle astudiodd yn y 1960au, Jamaica, lle bu’n byw efo’i deulu ifanc yn y saithdegau cynnar, a Mynydd Llandegai uwchben Dyffryn Ogwen lle y mae wedi byw a gweithio ers dros 40 mlynedd. Yn ei bedwar ugeinfed flwyddyn bellach, mae’r artist dylanwadol hwn yn cyflwyno gwaith sy’n defnyddio profiadau o’i einioes ac yn myfyrio ar y prosesau cynhyrchu a ddefnyddiwyd gan weithwyr ffatri yn y cymoedd a sut mae’r artist yn defnyddio’r un deunyddiau a phrosesau mewn ffyrdd gwahanol.
“Yr wyf yn edrych am cysylltiadau rhwng cerflunio a paentiadau . Y mae na cydfyw rhwng y dau-y gosodiad a’r paentiad.”
Gareth Griffith
Oriau agor | Open times:
Gallery 1 Llun - Mercher |Monday - Wednesday: 10am - 5pm
Iau - Sadwrn | Thursday - Saturday: 10am - 8pm
Sul | Sunday: 1pm - 5pm